NDM7241 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymadawiad a'r Undeb Ewropeaidd
NDM7241 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymadawiad a'r Undeb Ewropeaidd
NDM7241 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith
bob amser.
3. Yn cydnabod y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas
Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.
4. Yn cydnabod y manteision posibl i Gymru yn sgil
ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
a) llunio cytundebau masnach rydd newydd;
b) creu system fewnfudo decach nad yw'n gwahaniaethu yn
erbyn pobl ar y sail o ble y gallant ddod;
c) sefydlu dull newydd o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol
â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r
Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd
Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am
23.00 ar 31 Ionawr 2020.
2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o
ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol
i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn
sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau
Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau
datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac
yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y
Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU.
4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan
Lywodraeth Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod
yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n
gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r
Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Deddf
yr UE (Y Cytundeb Ymadael)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 29 Ion 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS