Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)

Cyflwynwyd  y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 09 Ionawr 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol  yn ymwneud â’r Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Ionawr 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Mawrth 21 Ionawr 2020.

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 98KB) ar 20 Ionawr 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/01/2020

Dogfennau