Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)
Cyflwynwyd y Bil
Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 09 Ionawr 2020.
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel
arfer.
Gosododd Llywodraeth
Cymru Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn ymwneud â’r Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Ionawr 2020.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno
erbyn dydd Mawrth 21 Ionawr 2020.
Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar
y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 98KB) ar 20 Ionawr 2020.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/01/2020
Dogfennau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)- 14 Ionawr 2020
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) - 14 Ionawr 2020
- Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) - 20 Ionawr 2020
- Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Adroddiad Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) PDF 126 KB