NDM7234 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Sgiliau Gweithlu ôl Brexit
NDM7234 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Sgiliau Gweithlu ôl Brexit
NDM7234 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o
ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl
Brexit.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru
drwy:
a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;
b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;
c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a
meithrin eu sgiliau; a
d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 2, mewnosod fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt
(b) ac ail-rifo’n unol â hynny:
‘cynyddu rhwydweithiau cymorth i brentisiaid drwy
drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau addysg bellach;’
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le:
'gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a
chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol
yr economi.'
Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd
Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r
sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais
gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.
Gwelliant 4 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu gwell amodau ar gyfer
datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf
ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp
oedran y person.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 22 Ion 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS