P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth
Naturiol Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Initiative for Nature Conservation Cymru (INCC), ar ôl casglu 873 o lofnodion
ar-lein a 322 ar bapur, sef cyfanswm o 1,195 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Menter ar Gyfer Cadwraeth Natur Cymru
(INCC) yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
gynnwys 'Bioamrywiaeth' yn benodol wrth osod eu cylch gwaith strategol i
Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2020/2021 ac yn y dyfodol. Yn benodol dylai'r
cylch gwaith gynnwys:
• Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau bod
bioamrywiaeth yn ganolog i'w bwrpas craidd wrth geisio rheoli adnoddau naturiol
yn gynaliadwy drwy:
1. Gweithio tuag at welliant cyffredinol yn
statws bywyd gwyllt Cymru ac atal neu o leiaf leihau'r risg o unrhyw ddifodiant
pellach o ganlyniad i weithgareddau dynol.
2. Sefydlu ardaloedd cynaliadwy, mwy a llai
tameidiog ar gyfer bywyd gwyllt, a ddylai ganolbwyntio i ddechrau ar gydgrynhoi
ac ymestyn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol presennol ac ardaloedd gwarchodedig
eraill, ac yna sefydlu ardaloedd newydd.
3. Blaenoriaethu'r angen i gael statws ffafriol neu
adferol ar gyfer nodweddion cadwraeth ar bob safle cadwraeth natur statudol
(AGA, ACA, SoDdGA a GNG).
4. Datblygu a gwella rhwydwaith effeithiol o
Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n ddigonol i sicrhau bod bywyd morol a
physgodfeydd cynaliadwy yn cael eu diogelu'n ddigonol o amgylch Cymru.
5. Sicrhau bod mwy o bobl yn mynd ati i gymryd
rhan mewn materion bioamrywiaeth, a'u bod yn ymwybodol o arwyddocâd
bioamrywiaeth i'w hiechyd a'u lles.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Ers cychwyn
Cyfoeth Naturiol Cymru chwe blynedd yn ôl, mae dirywiad cyson ac amlwg wedi bod
yn ymrwymiad Cymru tuag at fioamrywiaeth a chadwraeth natur. Mae Cymru wedi'i
disgrifio fel un o'r ardaloedd mwyaf disbyddedig o ran natur yn y byd sydd
eisoes wedi achosi difodiant llawer o'i rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid
brodorol. Mae nifer fawr o'r rhywogaethau sydd yn dal i fodoli bellach yn brin
neu o dan fygythiad, gan oroesi mewn rhannau o'u cynefinoedd sydd yn aml yn
ynysig.
Mae INCC yn credu bod
pobl Cymru a'r bywyd gwyllt y maen nhw'n rhannu eu cymuned ag ef yn haeddu
gwell. Mae angen mwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru
os yw Cymru am fod ag unrhyw obaith o wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac
atal difodiant bywyd gwyllt pellach rhag digwydd.
Ffordd effeithiol o
ddangos yr ymrwymiad hwn tuag at wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth fyddai
sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys 'Bioamrywiaeth' yn benodol fel rhan o
gylch gwaith strategol Cyfoeth Naturiol Cymru.
O ystyried y colledion
parhaus i fywyd gwyllt a'r hyn a welir fel diffyg blaenoriaethu tuag at
gadwraeth natur yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n amlwg na all 'Bioamrywiaeth'
aros fel rhan ymhlyg o swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhaid ei wneud yn
benodol a rhoi blaenoriaeth briodol iddo.
Os na fydd unrhyw
newid, mae difodiant bywyd gwyllt yng Nghymru yn y dyfodol yn anochel.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i’w hysbysu am y ddeiseb
a'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma yng nghyd-destun eu hymchwiliad i
Fioamrywiaeth ac Ailwylltio yng Nghymru ac, wrth wneud hynny, cau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/02/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
- Canolbarth a Gorllewin de Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/02/2020