P-05-940 Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo
P-05-940 Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo
P-05-940 Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu
canslo
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Claire-Louise Walker, ar ôl casglu cyfanswm o 100 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Roedd
erthygl a gyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2018 yn nodi bod 178,000 o lawdriniaethau
yng Nghymru wedi'u canslo yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf (2016-2018), 70,000
oherwydd rhesymau anghlinigol. Cafodd 90,000 eu canslo yn 2017/18.
Yn 2012 bu farw fy mab. Cafodd ei roi ar y
rhestr aros am driniaeth tonsilectomi brys ym mis Medi 2011. Canslwyd y
llawdriniaeth gyntaf oherwydd nad oedd gwely HDU ar gael, a gwnaethom ni
ganslo'r ail a'r trydydd gan nad oedd Dylan yn ddigon da. Cafodd y pedwerydd
llawdriniaeth, sef yr olaf, ei ganslo oherwydd nad oedd gwely HDU ar gael, ac
roedd y driniaeth hon i fod i ddigwydd y diwrnod y bu farw.
Daeth ymchwiliad i'r casgliad pe bai wedi cael y
llawdriniaeth y byddai wedi gwella'n llwyr.
Rydym bellach yn prysur agosáu at bron i ddegawd
ers ei farw, a rhoddodd bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro sicrwydd imi fod newidiadau
wedi'u rhoi ar waith. Mae wedi dod yn amlwg o ystyried y ffigurau eithriadol o
uchel hyn nad oes unrhyw beth wedi newid.
Galwaf ar Vaughan Gething, a Chynulliad Cymru i
roi newidiadau ar waith i sicrhau bod nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo
yn cael ei lleihau'n ddramatig. Yn bersonol, rwy'n credu bod y ffigurau hyn yn
ffiaidd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu
hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed
Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater
hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/03/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Cwm Cynnon
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/02/2020