Cyfarwyddyd Gweinidogol – Trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20

Cyfarwyddyd Gweinidogol – Trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Gyfarwyddyd Gweinidogol ar 18 Rhagfyr 2019 er mwyn bod GIG Cymru yn cydymffurfio ag ateb GIG Lloegr ar gyfer 2019/20 i fynd i’r afael â’r heriau gweithredol sy’n codi o ganlyniad i’r trefniadau presennol ar gyfer trethi pensiynau. Nid yw cynllun pensiwn y GIG a’r ddeddfwriaeth ar drethi pensiynau wedi’u datganoli i Gymru.

 

Cododd yr angen am Gyfarwyddyd Gweinidogol gan mai cynllunio trethi yw’r cynllun arfaethedig ac felly cododd y mater o reoleidd-dra gan nad yw’n gydnaws â pharagraff 5.6.1 o Reoli Arian Cyhoeddus Cymru. Cafwyd yr un mater o reoleidd-dra yn Lloegr.

 

Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar 3 Chwefror 2020 ar y gweithred yma a’i dyraniad cyllid, ac fe fydd yn monitro’r mater yn ystod ei sesiynau craffu blynyddol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/12/2019

Dogfennau