Ymchwiliad i Ansawdd Aer
Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig
(‘Y Pwyllgor) wedi bwriadu cynnal ymchwiliad i ansawdd aer.
Yn anffodus, cafodd gwaith ar yr ymchwiliad hwn ei atal ym
mis Ebrill 2020 i alluogi'r Pwyllgor i ganolbwyntio ei waith ar effaith
pandemig Covid-19. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i
gyfrannu eu safbwyntiau i’r ymchwiliad hwn.
Roedd y gwaith hwn yn cyd-fynd ag ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru, Cynllun
Aer Glân i Gymru – Awyr Iach, Cymru Iach. Y bwriad oedd i allbwn ymchwiliad
y Pwyllgor lywio datblygiad cynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer
Deddf Aer Glân i Gymru, y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi cyn diwedd tymor y
Senedd hwn.
Cylch gorchwyl
Ystyried cynigion
deddfwriaethol Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud ag aer glân, fel y maent wedi’u
hamlinellu yn yr ymgynghoriad, Cynllun
Aer Glân i Gymru – Awyr Iach, Cymru Iach, gan gynnwys:
·
Pa fylchau neu faterion rheoliadol y bydd angen mynd i’r
afael â nhw ar ôl i’r DU ymadael â’r UE? Sut y dylid mynd i'r afael â'r rhain a
beth fydd y prif heriau?
·
A yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf Aer Glân
yn briodol? Sut y gellir eu gwella? Beth y gellir ei ddysgu o ddulliau
deddfwriaethol mewn mannau eraill?
·
Beth yw eich barn am y cynigion rheoliadol mewn perthynas
â'r drefn Rheoli Ansawdd Aer Lleol? Beth yw'r prif heriau mewn perthynas â'r
dull a awgrymwyd?
·
Beth yw eich barn ar y cynigion rheoliadol sy'n ymwneud â
hylosgi domestig (gan gynnwys tân gwyllt/coelcerthi), gadael injan cerbydau yn
troi’n segur a Pharthau Aer Glân/Parthau Allyriadau Isel?
·
Beth yw'r prif heriau wrth gyflwyno fframwaith
deddfwriaethol ar gyfer ansawdd aer fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/12/2019
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Ansawdd Aer (Wedi ei gyflawni)