NDM7205 Dadl Blaid Brexit - Gofrestr Lobiwyr
NDM7205 Dadl Blaid Brexit - Gofrestr Lobiwyr
NDM7205 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r unig
ddeddfwrfa genedlaethol yn y DU sydd heb gofrestr lobïwyr.
2. Yn credu y byddai cofrestr lobïwyr yn helpu i hyrwyddo
didwylledd a thryloywder yng ngwleidyddiaeth Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar unwaith ar
weithredu cofrestr lobïwyr ar gyfer Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf am y camau y mae wedi'u cymryd ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018.
Yn croesawu bwriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i roi
ystyriaeth bellach i lobïo cyn diwedd y Pumed Cynulliad.
Y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Lobïo - Ionawr 2018
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 27 Tach 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Caroline Jones AS