Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Cefndir

Cyflwynwyd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) i’r Senedd gan Lywodraeth y DU ar 19 Rhagfyr 2019. Mae gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyfrifoldeb dros ystyried Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil.

Gosododd Llywodraeth Cymru y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cytundeb Ymadael ar 23 Hydref 2019.

 

Cadw mewn cysylltiad

Os bydd y Pwyllgor yn penderfynu cynnal sesiwn arall yn y dyfodol, bydd yn cyfleu hyn ar ei dudalen hafan a thrwy ei gyfrif Twitter.

Mae'r Pwyllgor yn anfon e-bost yn rheolaidd sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit. Os hoffech inni anfon hwn atoch, e-bostiwch SeneddMADY@senedd.cymru.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2019