Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

Ynghylch y Bil

 

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer:

  • Diwygio trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys:
    • ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithiol yng Nghymru;
    • newidiadau o ran cofrestru pleidleiswyr, a
    • caniatáu i brif gyngor  ddewis rhwng y systemau pleidleisio 'cyntaf i’r felin’ neu'r 'bleidlais sengl drosglwyddadwy';
  • Pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymunedol cymwys;
  • Diwygio cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol;
  • Arweinyddiaeth prif gynghorau, gan gynnwys annog mwy o amrywiaeth ymhlith aelodau gweithredol a phennu swydd statudol prif weithredwr;
  • Datblygu fframwaith a phwerau i hwyluso dulliau gweithio rhanbarthol mwy cyson a chydlynol;
  • System newydd ar gyfer perfformiad a llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygu cymheiriaid, gan gynnwys cydgrynhoi pwerau cymorth ac ymyrraeth Gweinidogion Cymru;
  • Pwerau i hwyluso uno gwirfoddol gan brif gynghorau ac ailstrwythuro prif ardal;
  • Cyllid llywodraeth leol, gan gynnwys ardrethi annomestig a’r dreth gyngor;
  • Darpariaethau amrywiol mewn perthynas â:
    • Rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr,
    • diddymu pleidleisiau cymunedol,
    • awdurdodau tân ac achub,
    • Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, a
    • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef (PDF, 4MB).

 

Cyfnod cyfredol

BillStageAct

 

Mae'r Bil bellach yn Ddeddf. Mae esboniad o wahanol gyfnodau Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o hynt Bil drwy’r Senedd

Mae'r tabl a ganlyn yn nodi'r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod yn ystod hynt y Bil drwy’r Senedd.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 18 Tachwedd 2019

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (PDF, 818KB), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 4MB)

 

Datganiad y Llywydd (PDF, 78KB): 18 Tachwedd 2019

 

Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (PDF, 130KB) – 18 Tachwedd 2019

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - Datganiad o Fwriad Polisi (PDF, 452KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: 26 Tachwedd 2019 (PDF, 49KB)

 

Amserlen ddiwygiedig ar gyfer trafod Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – 20 Mai 2020 (PDF, 59KB)

 

Cyfnod 1: Y Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad cyhoeddus - daeth yr ymgynghoriad i ben ar 3 Ionawr 2020, ac mae’r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi. Yn ogystal â'r ymgynghoriad, lansiodd y Pwyllgor arolwg ar Ran 3 o'r Bil. Mae dadansoddiad o'r arolwg wedi cael ei gyhoeddi.

 

Dyddiadau'r Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

21 Tachwedd 2019

Trafod sut y bydd y Pwyllgor yn ymdrin â gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

 

 

27 Tachwedd 2019

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

11 Rhagfyr 2019

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

9 Ionawr 2020

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

15 Ionawr 2020

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

23 Ionawr 2020

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

29 Ionawr 2020

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

 

Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

3 Chwefror 2020

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

 

Trafododd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

29 Ionawr 2020

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

6 Chwefror 2020

Sesiwn dystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

 

 

 

 

 

Adroddiadau Cyfnod 1 y Pwyllgor

Gosododd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad (PDF, 117KB) ar y Bil ddydd Gwener 13 Mawrth 2020. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad  (PDF, 416KB) ar 23 Mawrth 2020.

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad (PDF, 1MB) ar oblygiadau ariannol y Bil ddydd Gwener 13 Mawrth 2020. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad (PDF, 277KB) ar 23 Mawrth 2020.

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF, 1MB) ar y Bil ddydd Gwener 13 Mawrth 2020. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad (PDF, 380KB) ar 23 Mawrth 2020.

Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Derbyniwyd y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Ebrill 2020.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Ebrill 2020.

 

Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i'r cyfnodau craffu ar gyfer Biliau Cyhoeddus.

Cyfnod 2: Y Pwyllgor yn trafod gwelliannau

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 9 Ebrill 2020.

 

Ysgrifennodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor ar 23 Ebrill 2020. Wedi hynny, penderfynodd y Pwyllgor Busnes atal Cyfnod 2 dros dro oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus.

 

Anfonodd y Gweinidog ohebiaeth bellach ar 12 Mai 2020.

 

Ar 18 Mai 2020, cytunodd y Pwyllgor Busnes (PDF, 59KB) i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer trafodion Cyfnod 2 i 9 Hydref 2020, oherwydd argyfwng presennol COVID-19.

 

Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 16 Gorffennaf 2020, o dan Reol Sefydlog 26.21, y bydd trefn y drafodaeth o ran trafodion Cyfnod 2 fel a ganlyn:

 

Adrannau 2 i 30; Atodlen 2; Adran 1; Adrannau 31 i 44; Atodlen 3; Adrannau 46 i 56; Atodlen 4; Adran 57; Adran 45; Adran 59; Atodlen 5; Adrannau 60 i 63; Atodlen 6; Adran 64; Atodlen 7; Adrannau 65 i 69; Atodlen 8; Adrannau 70 i 72; Adran 58; Adrannau 73 i 114; Atodlen 9; Adrannau 115 i 135; Atodlen 10; Adran 136; Atodlen 11; Adran 137; Atodlen 1; Adrannau 138 i 158; Atodlen 12; Adrannau 159 i 161; Atodlen 13; Adrannau 162 i 172; Teitl Hir.

 

Cynhaliwyd trafodaeth yng Nghyfnod 2 yng nghyfarfodydd y Pwyllgor ar 2 Hydref a 9 Hydref 2020.

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 7 Medi 2020

Tabl Pwrpas ac Effaith – 7 Medi 2020

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 22 Medi 2020

Tabl Pwrpas ac Effaith – 22 Medi 2020

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 24 Medi 2020 v2

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 25 Medi 2020

Rhestr o welliannau wedi'u didoli - 2 Hydref 2020 v2

Grwpio gwelliannau - 2 Hydref 2020

Rhestr o welliannau wedi’u didoli - 9 Hydref 2020

Grwpio gwelliannau - 9 Hydref 2020

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - Fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 884KB)

 

Newidiadau Argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 118KB)

 

(Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ochr dde’r dudalen).

Memorandwm Esboniadol Diwygiedig (PDF, 5MB)

 

Cyfnod 3: Trafod y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 12 Hydref 2020. Bydd manylion y gwelliannau a gyflwynwyd yn cael eu cyhoeddi yma.

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 29 Hydref 2020 f2

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 30 Hydref 2020

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 2 Tachwedd 2020

Tabl Pwrpas ac Effaith – 29 a 30 Hydref a 2 Tachwedd 2020

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 3 Tachwedd 2020 f2

Rhestr o welliannau wedi’u didoli – 10 Tachwedd 2020

Grwpio gwelliannau - 10 Tachwedd 2020

 

Cafodd trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 ei chytuno yn y Cyfarfod Llawn ddydd Iau 3 Tachwedd. O dan Reol Sefydlog 26.36, bydd gwelliannau Cyfnod 3 yn cael eu gwaredu yn y drefn a ganlyn:

 

Adrannau 2 - 24; Atodlen 2; Adran 1; Adrannau 25 - 38; Atodlen 3; Adrannau 40 - 50; Atodlen 4; Adran 51; Adran 39; Adran 53; Atodlen 5; Adrannau 54 - 56; Atodlen 6; Adran 57; Atodlen 7; Adrannau 58 - 63; Atodlen 8; Adrannau 64 - 66; Adran 52; Adrannau 67 - 87; Atodlen 9; Adrannau 88 - 114; Atodlen 10; Adrannau 115 - 135; Atodlen 11; Adran 136; Atodlen 12; Adran 137; Atodlen 1; Adrannau 138 - 160; Atodlen 13; Adrannau 161 - 163; Atodlen 14; Adrannau 164 - 174; Teitl hir.

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Tachwedd 2020.

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - Fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

 

Newidiadau Argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF, 94KB)

 

Cyfnod 4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Senedd ar y Bil ar 18 Tachwedd 2020.

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) [Fel y'i Pasiwyd] (PDF, 778KB)

Ar ôl Cyfnod 4

 

Ysgrifennodd y Cyfreithiwr Cyffredinol (Saesneg yn unig), ar ran y Twrnai Cyffredinol, Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Saesneg yn unig) a’r Cwnsler Cyffredinol (Saesneg yn unig) at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.

 

 

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau