P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Rhian Mannings, ar ôl casglu cyfanswm o 5,682 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i helpu i ddarparu gwasanaeth yma yng Nghymru i sicrhau
bod teuluoedd sy'n colli plant neu bobl ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl yn
cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Ym mis Chwefror 2012, bu farw fy mab, George, yn
sydyn mewn Uned Frys yng Nghymru. Fe gerddon ni allan i'r nos heb ddim, ar ein
pennau'n hunain ac mewn braw. Ni ddaeth neb, nid oedd neb yno i estyn llaw, gan
adael ffrindiau ac aelodau'r teulu, a hwythau mewn galar hefyd, i'm cynnal i a
Paul fy ngŵr. Bum niwrnod ar ôl colli ein mab, bu'n rhaid i mi a'm dau
blentyn ifanc arall wynebu torcalon eto pan wnaeth Paul ladd ei hun. Unwaith
eto, ddaeth neb.
Mae angen cymorth ar unwaith ar deuluoedd sy'n
wynebu colled o'r fath. Mae angen iddynt wybod y gallant gysylltu â rhywun i
ofyn cwestiynau a chael clust i wrando. Mae colli plentyn yn effeithio arnoch
am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu
drwy'r broses o alaru.
Nid oes modd cynllunio na pharatoi ar gyfer
colli plentyn yn annisgwyl, a gall y profiad ingol hwn effeithio ar iechyd
meddwl rhieni, brodyr a chwiorydd a gweddill y teulu. Rydym yn credu bod y
cymorth hwn yn hanfodol ac y bydd yn atal teuluoedd rhag gorfod cerdded allan
i'r nos heb ddim gobaith, heb ddim cymorth ac, yn bwysicach na dim, heb eu
plentyn.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Ers 2012, rwyf wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod
teuluoedd yn cael yr un cymorth wrth ffarwelio â'u plant ag a gânt pan fyddant
yn eu croesawu i'r byd adeg eu genedigaeth. Sefydlwyd yr elusen 2 Wish Upon a
Star i helpu teuluoedd a staff yn ystod y profiad o golli plentyn neu berson
ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys creu blychau
atgofion, cwnsela a sefydlu llwybr cymorth sydd ar gael ar unwaith drwy weithio
gyda byrddau iechyd a heddluoedd yma yng Nghymru. Cyfeiriwyd dros 465 o
deuluoedd atom ers i ni ddechrau cynorthwyo teuluoedd yn 2015. Mae'r rhesymau
dros y marwolaethau'n cynnwys Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS),
damweiniau, salwch ac, yn fwy diweddar, mae nifer o bobl ifanc wedi cyflawni
hunanladdiad. Rydym wedi cael adborth hynod gadarnhaol gan deuluoedd a staff,
ond gwyddom nad yw pob teulu'n cael eu cyfeirio atom ac mae angen ein cymorth o
hyd ar nifer ohonynt.
Mae'r elusen 2 Wish
Upon a Star eisoes yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd yng Nghymru ac mae pob
heddlu yn cefnogi'r fenter. Rydym wedi sefydlu llwybr cymorth uniongyrchol ym
mhob Uned Frys ac Uned Gofal Critigol ac mae'r llwybrau hyn wedi'u hamlinellu'n
glir yn nogfen PRUDiC Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda phob
crwner, corffdy, tîm rhoi organau ac Ambiwlans Awyr Cymru, i wneud yn siŵr
bod pob teulu'n gwybod amdanom. Fodd bynnag, mae nifer o deuluoedd yn dal yn
gorfod ymdopi heb ein cymorth. Rydym wedi clywed am staff sy'n 'anghofio' rhoi
blychau atgofion i'r rheini, yn penderfynu nad oes angen cymorth ar deulu
bachgen 18 oed gan ei fod 'wedi dechrau eillio' ac sy'n credu 'nad yw'n
briodol' cynnig cymorth adeg marwolaeth plentyn. Nid y staff sydd i benderfynu
a oes angen cymorth ar deulu.
Gwyddom, wrth siarad â
staff a theuluoedd, fod ein gwasanaeth yn newid bywydau'r rhai sydd wedi colli
plentyn neu berson ifanc yn annisgwyl, ac rydym am i Lywodraeth Cymru wneud yn
siŵr bod cymorth ar gael i bob teulu pan fydd ei angen fwyaf.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Estynnodd y Pwyllgor ei longyfarchiadau i Rhian Mannings,
y deisebydd, a phawb sydd wedi cefnogi’r ddeiseb ar sicrhau newid cadarnhaol ac
ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pawb sy'n colli plentyn neu
oedolyn ifanc yn cael cynnig gofal a chymorth profedigaeth ar unwaith, a
hynny’n unol â safonau y cytunir arnynt. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, a
chytunodd yr Aelodau hefyd i ddefnyddio'r ddeiseb hon fel astudiaeth achos ar
gyfer deisebau yn y dyfodol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
19/11/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/10/2019