NDM7153 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau TGAU a Safon Uwch
NDM7153 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau TGAU a Safon Uwch
NDM7153 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng
Nghymru.
2. Yn gresynu bod canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth
na chanlyniadau haf 2007.
3. Yn gresynu ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y
dysgwyr sy'n sicrhau graddau TGAU A*-C mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail
iaith.
4. Yn nodi bod ymchwil Llywodraeth Cymru wedi canfod bod
perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi
dirywio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i
wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i
ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am
eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau.
Yn croesawu:
a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i
fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;
b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn
cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac
wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;
c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos
gwelliant yr haf hwn;
d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar
gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r
disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol;
e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y
cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;
f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth
Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau
A*-C o gymharu â 2018.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn credu nad oes modd gwneud cymariaethau ystyrlon gyda
chanlyniadau TGAU a safon uwch blynyddoedd blaenorol am nifer o resymau.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn
unol â hynny:
Yn nodi canfyddiadau Estyn fod disgyblion sy’n mynychu
hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru yn methu â chyrraedd eu llawn botensial
erbyn yr amser iddynt adael yr ysgol.
Yn credu fod y berthynas rhwng disgybl ac athro yn
allweddol i gyrhaeddiad academaidd a bod yn rhaid ariannu ysgolion yn ddigonol
er mwyn codi safonau.
Yn galw am wella amodau gwaith athrawon, gan ddileu
biwrocratiaeth ac ymyrraeth diangen, er mwyn cryfhau cyflawniad academaidd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i’n
hysgolion ac i symud gwariant tuag at wasanaethau ataliol yn ei chyllideb
nesaf, er mwyn creu’r amodau i’n disgyblion a’n hathrawon lwyddo.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ym mhwynt 5, dileu “i gydnabod ei methiant i wella
cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i
ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi” a rhoi yn ei le “i ymddiheuro nad
yw’r gyfundrefn addysg bresennol yn caniatáu i hanner disgyblion ysgol Cymru
gyrraedd eu llawn botensial”.
Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dysgwyr TGAU a safon uwch Cymru yn cael eu
niweidio gan newidiadau diweddar sy'n glastwreiddio atebolrwydd ysgolion ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r duedd hon.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 2 Hyd 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS