P-04-357 Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru

P-04-357 Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r system ddiffygiol a ddefnyddir i ddyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru.

 

Ar hyn o bryd, gall unigolyn nad yw erioed wedi ymweld â Chymru fod yn gymwys i gael tŷ cymdeithasol, a hynny o flaen rhywun a aned ac a fagwyd yng Nghymru. Maer sefyllfa hon yn deillio o system bwyntiau syn rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ddigartref, pobl syn byw mewn tai yr ystyrir eu bod yn anaddas a phobl a gafodd eu rhyddhaun ddiweddar o sefydliadau arbennig, ac ati.

 

Ar yr olwg gyntaf, mae’r strategaeth hon yn ymddangos yn strategaeth glodwiw; serch hynny, pan gaiff ei chymhwyso ar lefel y Deyrnas Unedig, gwelwn lif diddiwedd o bobl sydd â ‘phroblemau’ ac sy’n hanu o’r tu allan i Gymru yn amddifadu pobl Cymru o’r cyfle i gael tai cymdeithasol. Yn rhy aml, bydd y datblygiadau hyn yn difetha cymunedau.

 

Er mwyn datrys y broblem hon, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system lle byddai’n rhaid i unigolyn fyw yng Nghymru am gyfnod o bum mlynedd cyn y byddai’n gymwys i gael tŷ cymdeithasol. Yr unig eithriadau fyddai ffoaduriaid gwleidyddol a phobl eraill syn ceisio dianc o sefyllfaoedd lle maent yn cael eu herlid.

 

Prif ddeisebydd:

Royston Jones

 

Nifer y deisebwyr:

115

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014