Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf
Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf
Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid agweddau ar gyllido
ac ariannu datganoli yng Nghymru gyda golwg ar lywio Rhan 1 o adroddiad Comisiwn
Silk. Yn benodol ymchwiliodd y Pwyllgor:
- i ba raddau y gellid rhoi pwerau benthyca i
Lywodraeth Cymru, gan edrych ar wersi a ddysgwyd o brofiad awdurdodau
lleol yn sgîl eu pwerau benthyca cyfredol; ac
- ystyried dulliau arloesol y gellid eu defnyddio gan
Lywodraeth Cymru i ysgogi arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, heb
effeithio’n negyddol ar floc Cymru, gan gynnwys i ba raddau y byddai modd
defnyddio pwerau benthyca cyfredol awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.
Yn ystod yr ymchwiliad hwn ystyriodd y Pwyllgor:
- y camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol i benderfynu
ar eu terfynau benthyca darbodus ac i gadw golwg ar y terfynau hynny, a
sut y gwneir hyn;
- lefelau amrywiol benthyca darbodus a ddefnyddir gan
awdurdodau lleol yng Nghymru ac unrhyw resymau dros y gwahaniaethau hynny;
- trosolwg o natur y prosiectau lle y defnyddiwyd
benthyca heb gefnogaeth, ac a oes rhesymau penodol dros hyn;
- gwersi a ddysgwyd gan awdurdodau lleol am fenthyca
darbodus gan gynnwys effaith ad-daliadau yn y tymor hir;
- sut y gellid defnyddio benthyca awdurdodau lleol i
roi hwb i faint y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer seilwaith Cymru;
- unrhyw gamau eraill a ystyrir gan awdurdodau lleol i
ariannu gwariant cyfalaf;
- dulliau eraill o ysgogi arian cyfalaf a ystyrir gan
Lywodraeth Cymru wrth baratoi ei Chynllun Seilwaith gan gynnwys y
posibilrwydd o roi hwb i fenthyca gan awdurdodau lleol a sefydliadau
eraill;
- ymchwilio i ddulliau cyfalaf arloesol a gynigwyd mewn
rhannau eraill o’r DU, sut y cawsant eu datblygu a’u defnyddio, a phan
fo’n bosibl, sut y maent wedi perfformio.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2014
Y Broses Ymgynghori
Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar Ddydd Iau 1 Mawrth.
Dogfennau
- Adroddiad - Gorffennaf 2012
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 228 KB Gweld fel HTML (2) 58 KB
- Llythyr ymgynghori PDF 126 KB Gweld fel HTML (3) 76 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Pembrokeshire County Council (Saesneg yn unig) PDF 98 KB Gweld fel HTML (4) 15 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Saesneg yn unig) PDF 237 KB Gweld fel HTML (5) 80 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Y Sefydliad Tai Siartredig yng Nghymru (Saesneg yn unig) PDF 423 KB Gweld fel HTML (6) 25 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 2 MB Gweld fel HTML (7) 53 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 546 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Cyngor Sir y Fflint (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Conwy (Saesneg yn unig) PDF 145 KB Gweld fel HTML (10) 14 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Cyngor Sir Gar Carmarthenshire (Saesneg yn unig) PDF 3 MB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: WLGA PDF 206 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Scottish Local Government Directors of Finance (Saesneg yn unig) PDF 519 KB
Ymgynghoriadau
- Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a chyfalaf (Wedi ei gyflawni)