Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol

Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad ar gaffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol.

 

Crynodeb

Mae'r economi sylfaenol wedi ei seilio ar y gweithgareddau sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, ni waeth beth fo statws cymdeithasol y defnyddwyr. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, gwasanaethau iechyd, addysg a lles; seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd; a manwerthu a dosbarthu. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bwriad i gynyddu caffael cyhoeddus fel rhan o ymgyrch i 'greu cadwyni cyflenwi lleol mwy cadarn a chreu cyfoeth mewn cymunedau ar draws Cymru'.

 

Cylch gorchwyl

Mae'r Pwyllgor yn gwahodd sylwadau ar y materion a ganlyn:

  • Beth yw’r sefyllfa bresennol o ran cyfran y contractau cyhoeddus yng Nghymru sy'n mynd i gyflenwyr o Gymru?
  • I ba raddau y gallai cynyddu 'caffael lleol' gan y sector cyhoeddus greu cadwyni cyflenwi lleol mwy cadarn a chreu cyfoeth mewn cymunedau ledled Cymru?
  • Beth yw eich barn chi am ddull arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu 'caffael lleol' gan y sector cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys sut y caiff 'caffael lleol' ei ddiffinio a'i fonitro, sut mae egwyddorion caffael cynaliadwy a moesegol yn cael eu cymhwyso, a sut mae'r nodau statudol a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cael eu cyflawni)?
  • Ym mha ffyrdd y gellir cynyddu a chynnal gwario yn lleol, a chaffael cydweithredol ymhlith busnesau bach a chanolig, a hynny wrth weithio o fewn fframwaith caffael yr UE, ni waeth pa drefniadau sydd ar waith yn dilyn Brexit?
  • A allwch chi roi enghreifftiau o fentrau caffael cyhoeddus tebyg mewn rhannau eraill o'r DU a'r UE?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/07/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau