P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

O dan ystyriaeth

 

P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cllr Carolyn Thomas, ar ôl casglu cyfanswm o 514 lofnodion ar-lein a 3,164 ar bapur, sef cyfanswm o 3,705 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i reoleiddio cwmnïau bysiau masnachol a rhoi pwerau a chyllid i Awdurdodau Lleol i gynnal gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl leol orau. Yn ogystal â darparu mynediad at gyflogaeth ac addysg, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater cymdeithasol, iechyd a lles sy'n dod yn fwyfwy pwysig wrth i wasanaethau bws gael eu cwtogi, gan effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol llawer o drigolion a fydd yn dod yn ynysig yn gymdeithasol ac yn methu â chyrraedd gwasanaethau sylfaenol.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​Mae cwmnïau bysiau yn cwtogi ar lawer o wasanaethau craidd a arferai weithredu heb gymhorthdal neu gyda braidd ddim cymhorthdal. Nid yw cwmnïau yn tendro am gontractau newydd ac mae rhai yn gofyn am symiau chwe ffigur yn gymhorthdal er mwyn parhau i weithredu. Nid oes modd i Awdurdodau Lleol fforddio hyn gan eu bod yn wynebu pwysau cyllidebol. Ni all Awdurdodau Lleol redeg gwasanaethau mewn cystadleuaeth â'r cwmnïau. Mae'n cymryd gormod o amser i deithio i'r gwaith gan fod gwasanaethau uniongyrchol yn cael eu cwtogi, hyd yn oed os ydynt ar gael, ac mae rhai yn orlawn. Pobl hŷn yw mwyafrif y trigolion sy'n dod i'r llu o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd gennym, ac maent yn pryderu am gael mynediad at wasanaethau, cadw apwyntiadau iechyd a dod yn ynysig. Mae unigrwydd yn broblem fawr yn ein cymdeithas. Ein nod yw galluogi pobl hŷn i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Ein nod yw iddynt aros yn feddyliol ac yn gorfforol heini ac egnïol. Mae bysiau cyhoeddus bellach yn fater brys o bwys mawr y mae angen mynd i'r afael ag ef yn gyflym.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 19/11/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y bwriad i gyflwyno'r Bil Bysiau (Cymru) a'r gwaith craffu a fyddai’n cael ei wneud yn ei chylch gan y Cynulliad a phwyllgor arall yn ystod y broses ddeddfwriaethol.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd i roi gwybodaeth iddo am sut y gall ymgysylltu â'r broses graffu ddeddfwriaethol er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y Bil.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/10/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Alun a Glannau Dyfrdwy
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/09/2019