P-05-896 Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau

P-05-896 Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau

Wedi'i gwblhau

 

P-05-896 Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Beverly Gillespie, ar ôl casglu cyfanswm o 281 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal unig ward dementia Merthyr Tudful rhag cau. Mae Ward 35 yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn darparu seibiant hanfodol i deuluoedd ac anwyliaid preswylwyr lleol sy'n dioddef clefyd Alzheimer a ffurfiau eraill ar ddementia. Heb yr ased hanfodol hwn, mae bygythiad gwirioneddol o niwed y gellir ei atal i'r bobl fwyaf agored i niwed. Erbyn hyn, ni all llawer o bobl ofalu am aelodau'r teulu sydd â'r cyflwr hwn oherwydd bod angen gofal arnynt hwythau neu oherwydd pwysau gwaith ac ymrwymiadau gofal plant. Ystyriwch y goblygiadau negyddol ehangach o gau'r ward hon a'r boen y byddai'n ei hachosi i lawer o deuluoedd, y byddai eu ward dementia agosaf filltiroedd i ffwrdd.

 

A hospital room

Description automatically generated

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried y ffaith bod Ward 35 wedi cau yn haf 2019 ac na ellir cyflawni amcanion y ddeiseb mwyach, a’r diffyg cyswllt â’r deisebydd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/09/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Merthyr Tudful a Rhymni
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/08/2019