P-05-894 Ardrethi busnes tecach i fusnesau Cymru

P-05-894 Ardrethi busnes tecach i fusnesau Cymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-894 Ardrethi busnes tecach i fusnesau Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Your Pontypridd Business Improvement District, ar ôl casglu cyfanswm o 80 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod natur newidiol y sector manwerthu yng Nghymru dros y degawd diwethaf ac ystyried trafod ffyrdd o gyflwyno ardrethi busnes tecach fel rhan o system trethi Gymreig fwy blaengar i fusnesau yng nghanol ein trefi, mewn parciau manwerthu ac ar-lein i gynrychioli'r newidiadau hyn yn llawn.

 

Mae trefi a dinasoedd llewyrchus a chynaliadwy yn bwysig i bawb sy'n byw ac yn gweithio ynddynt ac mae Llywodraeth yr Alban wedi cydnabod hyn drwy ystyried codi trethi i barciau manwerthu ac mae Plaid Lafur y DU am brisiadau ardrethi busnes blynyddol, gan gydnabod yn rhannol yr angen i ystyried rhannu'r baich treth yn fwy cyfartal.

 

Dyma gyfle i Lywodraeth Cymru arwain ardrethi a threthi busnes tecach ac rydym ni, yn Ardal Gwella Busnes (BID) Eich Pontypridd, yn eich annog i achub ar y cyfle i ddangos i'n busnes lleol eich bod yn deall ei anghenion nawr ac yn y dyfodol.

 

A person sitting at a desk with a computer

Description automatically generated

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebwyr â’r mesurau a gyflwynwyd drwy’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/09/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/08/2019