P-05-893 Achub Ein Parciau yng Nghymru

P-05-893 Achub Ein Parciau yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Crispian Huggill, ar ôl casglu cyfanswm o 244 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae parciau a mannau chwarae yn mynd yn adfail, neu maent dan fygythiad o gael gwaith adeiladu arnynt neu gael eu gwerthu i ddatblygwyr.

 

Mae hyn er gwaethaf y manteision iechyd a chymdeithasol hanfodol a gynigir gan y mannau gwyrdd hyn, sydd mor agos at ein calonnau.

 

Diben y ddeiseb hon yw ysgogi cefnogaeth i achub ein parciau, ein meysydd chwarae a'n mannau agored rhag cael eu colli am byth, i ddiwallu anghenion cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol ac ategu'r rhwymedigaethau sydd ar gynghorau yng Nghymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf yr Amgylchedd 2016.

 

Rydym eisiau:

 

1) Gofyniad statudol i gynghorau neilltuo cyllid o £30 yr aelwyd y flwyddyn ar gyfer parciau.

 

2) Gweld dyletswydd gyfreithiol i bob man gwyrdd gael ei reoli i safon dda.

 

3) Rheolau newydd yn gwahardd gwaith datblygu ar barcdiroedd, gwerthu parcdiroedd neu ddefnyddio parcdiroedd yn amhriodol.

 

4) Cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth brys i'r parciau sy'n wynebu'r perygl mwyaf a sicrhau dyfodol mannau gwyrdd agored Cymru yn yr hirdymor.

 

5) Gofyniad cyfreithiol i bob cyngor weithredu Strategaeth Mannau Agored yn unol â Safonau Meysydd Chwarae Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a Deddf yr Amgylchedd 2016, ac iddynt weithio gyda Meysydd Chwarae Cymru i ddiogelu a gwella'r holl fannau gwyrdd agored cyhoeddus yng Nghymru.

 

 

A group of people in a park

Description automatically generated

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/06/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Yn sgil yr ymatebion sydd wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n trafod materion fel y diogelwch a gynigir gan bolisïau cynllunio a gwrthod cyllid wedi’i neilltuo, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ac i gau’r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/09/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/07/2019