Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)
Mae hwn yn fater lle y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio
cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn
cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Cyflwynwyd y Bil
Ardrethu Annomestig (Rhestrau) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 11 Mehefin 2019.
Mae'r Bil yn ceisio sicrhau bod biliau ardrethi
annomestig yn adlewyrchu gwerth rhent presennol eiddo'n fwy cywir drwy ddwyn
ymlaen yr ymarfer ailbrisio nesaf i 1 Ebrill 2021.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 19
Mehefin 2019 (PDF, 109KB).
Methodd Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) â phasio yn
Senedd y DU cyn i’r Senedd gael ei haddoedi ar 9 Medi 2019. Golyga hyn fod hynt
y Bil wedi dod i ben ac nad oes angen y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
bellach.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2019
Angen Penderfyniad: 21 Gorff 2019 Yn ôl Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd