NDM7047 Dadl Plaid Cymru - Uno TATA Steel a ThyssenKrupp - Tynnwyd yn ôl
NDM7047 Dadl Plaid Cymru - Uno TATA Steel a ThyssenKrupp - Tynnwyd yn ôl
NDM7047
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod TATA
Steel a ThyssenKrupp wedi cyhoeddi eu bwriad i werthu gwaith dur Trostre yn
Llanelli fel rhan o fwriad i uno'r ddau gwmni.
2. Yn nodi ymhellach
bod undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr yn ffatrïoedd TATA yng Nghymru
wedi dweud nad ydynt bellach wedi'u hargyhoeddi mai uno yw'r opsiwn gorau i
TATA Steel Europe a'u bod wedi mynegi pryderon nad partneriaeth gyfartal yw'r
fenter ar y cyd, ac yn credu y gall penderfyniadau strategol yn y dyfodol
flaenoriaethu buddiannau gweithrediadau ThyssenKrupp uwchlaw rhai TATA Steel
Europe.
3. Yn nodi bod y
Comisiwn Ewropeaidd wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ei adolygiad o'r
cytundeb cyd-fenter arfaethedig tan 17 Mehefin.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r uno fel y caiff ei gynnig ar hyn o bryd a
gwneud sylwadau ar y sail honno i Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth y
DU a Bwrdd TATA Steel Europe.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/07/2024
Angen Penderfyniad: 8 Mai 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS