NDM7045 Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gweithio Gartref
NDM7045 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth
rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai 2019.
2. Yn credu bod gweithio gartref yn rhoi mwy o
hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a bod iddo fanteision ehangach
hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy hygyrch i bobl anabl, a
chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob
corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gynnwys gweithio gartref yn y broses
o gynllunio swyddi a recriwtio.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth
benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru,
er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro
gan ddiffyg mynediad at fand eang.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 4, dileu:
“ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref
o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o
Ysgol Fusnes Manceinion wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr
cartref, yn wynebu'r posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad
i ddwysáu gwaith, gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac
mae'n cydnabod yr angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau
yn y dyfodol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021
Angen Penderfyniad: 8 Mai 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Neil Hamilton AS