NDM7046 Dadl Plaid Cymru - Byrddau Iechyd
NDM7046 Dadl Plaid Cymru - Byrddau Iechyd
NDM7046 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi'r adroddiad Adolygiad o Wasanaethau
Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar 30 Ebrill 2019.
2. Yn nodi bod pryderon mawr ynghylch ansawdd gofal a
threfniadau llywodraethu byrddau iechyd hefyd wedi cael eu codi yn yr
adroddiadau canlynol:
a) Ymddiried mewn Gofal: Adolygiad annibynnol o Ysbyty
Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol
Abertawe Bro Morgannwg, 2014;
b) Ymchwiliad allanol Donna Ockenden i bryderon a godwyd
ynghylch gofal a thriniaeth cleifion ar ward Tawel Fan, 2014; ac
c) Adolygiad Donna Ockenden o'r trefniadau llywodraethu
sy'n ymwneud â gofalu am gleifion ar ward Tawel Fan, 2018.
3. Wedi colli hyder bellach yn y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol presennol yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r
methiannau systemig a godwyd yn yr adroddiadau hyn, ac mewn adroddiadau eraill.
Adolygiad
o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf. 2019
Donna
Ockenden - ymchwiliad allanol i bryderon a godwyd ynghylch gofal a thriniaeth
cleifion ar ward Tawel Fan. 2014 (Saesneg yn unig)
Donna
Ockenden - adolygiad o'r trefniadau llywodraethu yn ymwneud â gofal cleifion ar
ward Tawel Fan. 2018 (Saaesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y
trallod a'r trawma a achoswyd i deuluoedd;
Yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau
ar unwaith ac yn barhaus i wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; ac
Yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r
afael ag unrhyw faterion llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf
Morgannwg ac ar draws GIG Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 8 Mai 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS