NDM7044 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - E-chwaraeon
NDM7044 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - E-chwaraeon
NDM7044 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr effaith gynyddol y mae'r diwydiant
e-chwaraeon yn ei chael ar economïau lleol ledled y byd, megis twrnameintiau
2017 yn Valencia a Cologne a ddenodd rhwng 15,000 a 40,000 o gefnogwyr.
2. Yn nodi bod Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a
Chwaraeon Llywodraeth y DU yn cynnal ymchwiliad i archwilio'r potensial ar
gyfer e-chwaraeon yn y DU, ymhlith tueddiadau eraill o ran technoleg.
3. Yn croesawu argymhellion adolygiad Bazalgette o'r
diwydiannau creadigol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n amlinellu
argymhellion ar gyfer sut y gall y sector e-chwaraeon fod yn sail i dwf
economaidd y DU yn y dyfodol, drwy:
a) godi statws e-chwaraeon gyda chystadlaethau a noddir
gan y Llywodraeth, timau cenedlaethol, a sylw yn y cyfryngau; a
b) cynyddu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £23.7 miliwn yn
ychwanegol dros bum mlynedd i ymestyn rhaglenni datblygu lwyddiannus ac
arloesol cronfa gemau'r DU a'r ' Transfuzer'.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) archwilio manteision economaidd posibl y diwydiant
e-chwaraeon yng Nghymru;
b) ymgynghori â rhanddeiliaid addas i drefnu a chynnal
cystadleuaeth ryngwladol e-chwaraeon yng Nghymru;
c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar gynnydd, erbyn 1 Hydref
2019.
Llywodraeth
y DU - Department for Digital, Culture, Media and Sport - Independent Review of
the Creative Industries - 22 Medi 2017 (Saeneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1- Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth
Cymru a’i phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi helpu i greu
sector Diwydiannau Creadigol ffyniannus yng Nghymru.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull
trawslywodraethol o ehangu’r diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru, gan gydnabod y
ffaith y bydd y Sector Diwydiannau Creadigol yn cyfrannu’n sylweddol at ei
lwyddiant.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru a’r
gweinyddiaethau datganoledig eraill yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer y
diwydiannau creadigol fel bod modd iddynt fanteisio ar gyfleoedd newydd o fewn
yr economi greadigol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 8 Mai 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS