Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru

Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru

Gwaith dilynol

Yn dilyn diwedd cyfnod pontio’r UE, cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gynnal gwaith dilynol i ystyried y newidiadau i’r rhyddid i symud ar ôl Brexit.

Yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2021, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gydag academyddion er mwyn cael diweddariad ar y materion a ystyriwyd yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol, gan gynnwys cynnydd Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE y DU, yng Nghymru, ac unrhyw faterion pellach sydd heb eu datrys.

Yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2021, cyfarfu’r Pwyllgor â Llysgennad yr UE i’r DU er mwyn cael dealltwriaeth o safbwynt yr UE ar hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru ar ôl Brexit.

Ym mis Ionawr 2021 cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws (PDF, 139KB) gyda dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru a sefydliadau partner, i gasglu eu safbwyntiau ar roi’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar waith.

Ar 17 Chwefror 2021 ysgrifennodd y Cadeirydd at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (PDF, 311KB) a Gweinidog Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo (PDF, 213KB) yn y Swyddfa Gartref i amlinellu canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor. Ymatebodd (PDF, 616KB) y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ar 11 Mawrth 2021. Ymatebodd (PDF, 185KB) y Gweinidog dros Ffiniau’r Dyfodol a Mewnfudo ar 16 Mawrth 2021.

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru, 8 Tachwedd 2019. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 20 Rhagfyr 2019. Trafodwyd yr adroddiad a’r ymateb yn y Cyfarfod Llawn 22 Ionawr 2020.

Ynghyd â chyhoeddi ei adroddiad, mae’r Pwyllgor wedi creu cyfres o fideos i gyflwyno eu canfyddiadau.

Mae’r fideo cyntaf yn rhoi crynodeb o’r ymchwiliad, a gellir ei weld isod:

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/Us5I6xiKfJ0

Mae’r ail fideo yn canolbwyntio ar Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a gellir ei weld yma:

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/FdM_CAKF9Zg

Casglu tystiolaeth

Er mwyn llywio ei ymchwiliad, casglodd y Pwyllgor dystiolaeth gan academyddion, rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd.

Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth gan academyddion ar 13 Mai 2019 er mwyn deall rhai o'r materion allweddol ar ryddid i symud yn sgil Brexit er mwyn llywio gwaith yn y dyfodol, os bydd angen, yn y maes hwn.

Ar 9 Gorffennaf 2019 lansiodd y Pwyllgor ei ymgynghoriad ar newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – goblygiadau i Gymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 10 Medi a chafwyd 16 o ymatebion (PDF, 920KB).

Cynhaliodd y Pwyllgor grŵp ffocws (PDF, 108KB) ar 30 Medi 2019 gyda gwladolion yr UE a sefydliadau partner er mwyn meithrin dealltwriaeth o'u profiad byw.

Cefndir

Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur o'r enw  ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’ (PDF, 1MB) sy'n amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar reolau rhyddid i symud yn y dyfodol ar ôl Brexit.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar bolisi mewnfudo yn y dyfodol o'r enw: ‘The UK’s future skills-based immigration’ [Saesneg yn unig] (PDF, 14.6MB) ym mis Rhagfyr 2018. Mae'r papur yn amlinellu cynlluniau'r Llywodraeth i gyflwyno un system fewnfudo newydd, gan ddod â symudiad rhydd i ben.

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru waith ymchwil, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, o'r enw ‘Mudo yng Nghymru: Effaith newidiadau polisi ôl-Brexit’.

Math o fusnes: Arall

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/05/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau