NDM6990 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rygbi
NDM6990 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rygbi
NDM6990 Andrew
R.T. Davies (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision
economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i le arbennig yng ngwead cymunedau
ledled ein cenedl;
b) yr heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng
Nghymru ar hyn o bryd;
c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi
Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y
gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y
rhanbarthau; a
d) y pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y
posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb
Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a
llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr
gwlad.
Cyd-gyflwynwyr
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru)
Huw
Irranca-Davies (Ogwr)
Cefnogwyr
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
Rees (Aberafan)
Hefin
David (Caerffili)
Janet
Finch-Saunders (Aberconwy)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Lynne
Neagle (Torfaen)
Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru)
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 27 Maw 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Andrew RT Davies AS