Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015
Inquiry5
Cynhaliodd Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru waith craffu ôl-ddeddfwriaethol byr
a phenodol ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015
Bwriad Deddf Addysg
Uwch (Cymru) 2015 oedd:
(a)
“sicrhau
trefn reoleiddio gadarn a chymesur ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu
cyrsiau'n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau Llywodraeth Cymru;
(b)
diogelu'r
cyfraniad a wneir at les y cyhoedd sy'n deillio o gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru tuag at addysg
uwch;
(c)
canolbwyntio'n
gryf ar sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb yn ddiwahân; a
(d)
chadw
a diogelu annibyniaeth sefydliadol a rhyddid academaidd prifysgolion.”
Roedd y Pwyllgor yn
ymwybodol bod y gwaith ar ddiwygiadau arfaethedig Addysg, Hyfforddiant ac
Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) Llywodraeth Cymru wedi datblygu'n dda.
Roedd yn awyddus
felly i ddeall pa mor dda roedd Deddf 2015 yn gweithio, a pha wersi y gellid eu
dysgu yn sgîl y Ddeddf, cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd
I wneud hyn,
ystyriodd y Pwyllgor:
- a yw'r Ddeddf yn cyflawni ei nodau,
ac os na, pam;
- a gyflawnwyd y costau, ac os na, pam;
- a yw'r Ddeddf wedi cyflawni gwerth
cyffredinol am arian;
- pa mor dda y gweithredwyd y Ddeddf a
pha mor dda y mae'n gweithio'n ymarferol, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau
anfwriadol;
- y canlyniadau o adolygiadau ffurfiol
Llywodraeth Cymru o'r Ddeddf; ac
- unrhyw arfer da a gwersi a ddysgwyd
o'r Ddeddf a'r gwaith paratoi (h.y. y broses o lunio'r Ddeddf, ei
drafftio, ymgynghori arni ac ati).
Noder, nid nod yr
ymchwiliad hwn oedd ailagor y dadleuon
polisi a gododd yn ystod y cyfnod y pasiwyd y Bil. Yn hytrach, y nod eang oedd
deall a oedd y Ddeddf a'i gweithrediad wedi cyflawni'r amcanion, y costau a'r
effaith a fwriadwyd, a hynny mewn modd effeithiol ac effeithlon.
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1.
Estyn a Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru David
Blaney, Prif Weithredwr - CCAUC Bethan
Owen, Dirprwy Brif Weithredwr - CCAUC Meilyr
Rowlands, Prif Arolygydd EM – Estyn Jassa
Scott, Cyfarwyddwr Strategol - Estyn |
|||
2.
Prifysgolion Cymru Yr
Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru Yr
Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Gadeirydd-Prifysgolion Cymru Ben
Arnold, Cynghorydd Polisi, Prifysgolion Cymru |
|||
3.
ColegauCymru Maggie
Griffiths, Pennaeth Cynorthwyol - Grŵp Llandrillo Menai (trwy Gynhadledd Fideo) Emil
Evans, Dirprwy Bennaeth - Coleg Caerdydd a'r Fro Mike
Williams, Pennaeth Cynorthwyol - Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion |
|||
4.
Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) ac Undeb Prifysgolion a
Cholegau (UCU) Margaret
Phelan, Swyddog UCU Cymru Dr
Bethan Winter, Swyddog Polisi a Chyfathrebu - UCU Rob
Simkins, Llywydd - UCM Cymru Joni
Alexander, Cyfarwyddwr Dros Dro - UCM Cymru |
|||
5.
Llywodraeth Cymru Kirsty
Williams AC, y Gweinidog Addysg Huw
Morris, Huw Morris, Cyfarwyddwr y Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol
Oes, Llywodraeth Cymru |
Adroddiad
Craffu
ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (PDF 2MB) – 4 Rhagfyr 2019
Ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF 197KB) – 16 Ionawr 2020
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2019
Dogfennau
- Gwybodaeth gan CCAUC mewn ymateb i argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor - Adolygiad o Lywodraethiant Prifysgolion yng Nghymru, Siarter Llywodraethiant ac Ymrwymiadau’r Siarter (Saeseneg yn unig) - 20 Chwefror 2020
PDF 640 KB
- Llythyr gan CCAUC mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor (Saesneg yn unig) - 24 Ionawr 2020
PDF 117 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru - 16 Ionawr 2020
PDF 197 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan HEFCW yn dilyn y cyfarfod ar 18 Gorffennaf (Saesneg yu Unig)
PDF 234 KB
- Adroddiad - Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 - 4 Rhagfyr 2019
PDF 2 MB
Ymgynghoriadau
- Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Wedi ei gyflawni)