Rheoli Grantiau yng Nghymru
Rheoli Grantiau yng Nghymru
Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei adroddiad ar
Reoli Grantiau yng Nghymru 2011 ym mis Tachwedd 2011. Nododd yr Archwilydd
Cyffrediniol yn ei adroddiad, bod costau gweinyddu grantiau yn gymharol uchel a
bod llawer o grantiau yn cael eu rheoli’n wael, a bod ariannwyr a rhai sy’n
cael arian yn peidio â dysgu o gamgymeriadau a wnaethpwyd. Gwelodd dystiolaeth
amlwg, fodd bynnag, bod rhai ariannwyr am wella.
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i’r materion a nodwyd yn ei adroddiad.
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad
interim ar Reoli Grantiau yng Nghymru ym mis Awst 2012 ac adroddiad
terfynol ym mis Mehefin 2013.
Craffodd y Pwyllgor ar Adroddiad Rheoli
Grantiau Blynyddol Llywodraeth Cymru mewn cyfres o sesiynau tystiolaeth rhwng
mis Mawrth 2014 a mis Chwefror 2016. Tynnodd y sesiynau hynny ar gynnwys
adroddiadau rheoli grantiau blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013, 2014 a
2015, a gyhoeddwyd fel rhan o’i hymateb i’r argymhellion yng ngwaith y
Pwyllgor.
Argymhellodd y Pwyllgor yn ei Adroddiad
Etifeddiaeth fod y pwyllgor sy’n ei olynu yn parhau i graffu ar hynt gwaith
Llywodraeth Cymru o ran gwella’r gwaith o reoli grantiau, yn tynnu ar adroddiadau
blynyddol Llywodraeth Cymru, ac yn ystyried unrhyw dystiolaeth newydd ynghylch
rheoli grantiau sy’n codi o waith yr Archwilydd Cyffredinol neu bryderon eraill
sy’n cael eu tynnu at sylw’r Pwyllgor.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/04/2013
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Mehefin 2013
- Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol - 29 Mawrth 2016 (Saesneg yn Unig) PDF 424 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Gorffennaff 2013
- Adroddiad Interim y Swyddfa Archwilio Cymru - Awst 2012 PDF 802 KB
- Adroddiad Interim y Swyddfa Archwilio Cymru - Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 99 KB Gweld fel HTML (5) 43 KB
- Cydberthynas Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan PDF 802 KB
- Correspondence from WCVA - January 2013 PDF 116 KB Gweld fel HTML (7) 21 KB