NNDM6985 - Trafodaethau ar Ymadael â'r UE

NNDM6985 - Trafodaethau ar Ymadael â'r UE

NNDM6985 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU.

 

2. Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg.

 

3. Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig gyfan.

Cyd-gyflwynwyr
Rhun ap Iorwerth (Ynys Mon)

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/03/2019

Angen Penderfyniad: 5 Maw 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rebecca Evans AS