P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru
P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru
P-05-866
Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Siobhan Corria ar ran Michelle Christopher, ar ôl
casglu 238 o lofnodion ar bapur.
Geiriad
y ddeiseb:
Mae 44,000 o bobl yn y DU yn marw oherwydd sepsis bob
blwyddyn. Bob 3.5 eiliad, mae rhywun yn y byd yn marw o sepsis.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymrui gynnal Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis
i leihau marwolaethau diangen a gwella canlyniadau i’r goroeswyr a’r holl bobl
y mae’n effeithio arnynt.
Er cof am Chloe Christopher a’r holl bobl y mae sepsis wedi effeithio arnynt
yng Nghymru.
Statws
Yn ei
gyfarfod ar 09/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chytunodd i gau'r ddeiseb o ystyried
cynlluniau'r Pwyllgor hwnnw i gynnal ymchwiliad i sepsis yn nhymor yr hydref.
Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r
ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb
hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/03/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Gogledd Caerdydd
·
Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/03/2019