P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion
P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn
ysgolion
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
BlowforBradley Campaign, ar ôl casglu 1,463 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym
yn credu bod achosion o fwlio mewn ysgolion yn cael eu hanwybyddu’n aml ac nad
yw’r mater yn cael ei wynebu mewn gormod o achosion. Mae’n ofynnol i ysgolion
fod â pholisi gwrth-fwlio ond, yn rhy aml, datganiad gwaith papur yn unig yw
hyn na weithredir arno.
Rydym am i
Gynulliad Cymru greu fframwaith gwrth-fwlio safonol y gellir ei orfodi drwy’r
gyfraith. Mae bwlio mewn ysgolion yn aml yn effeithio ar y dioddefwyr ar hyd eu
bywydau, felly mae angen newidiadau gan fod y system bresennol yn fethiant.
Yn aml, nid yw
ysgolion yn cofnodi achosion o fwlio o’r fath oherwydd ofn gwneud niwed i’w
henw da ac mae’r dioddefwyr sy’n codi llais yn aml yn canfod eu bod eu hunain
yn cael eu cosbi, gan wneud mwy fyth o niwed i’w hunan-barch.
Rydym yn mynnu y
caiff achosion o fwlio eu cofnodi ac y gweithredir arnynt drwy system gofnodi
well, teledu cylch cyfyng, adrodd, a chyswllt gorfodol â rhieni.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Mae'r Comisiynydd Plant wedi
mynegi ei boddhad â statws statudol y canllawiau gwrth-fwlio newydd, sy'n
cynnwys gofynion i ysgolion ddatblygu polisïau cadarn, a chofnodi a monitro. At
hynny, mae hi wedi nodi y bydd ei swyddfa yn parhau i fonitro. Ar y sail honno,
cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni
ar hyn o bryd. O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebwyr am godi’r mater hwn.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 12/02/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
·
Llanelli
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/02/2019