NNDM6958 - Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin

NNDM6958 - Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin

NNDM6958 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig.

2. Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael Erthygl 50.

3. Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus.

4. Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn.

 

Cyd-gyflwynwyr

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod safbwynt bresennol Llywodraeth y DU o ran ymadael â'r UE yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei safbwynt yn ôl o ran yr hyn â nodir yn "Diogelu Dyfodol Cymru," a ysgrifennwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, gan fod hyn hefyd yn anwybyddu ewyllys pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn cymeradwyo ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, heb unrhyw estyniad i Erthygl 50, ac o dan delerau Sefydliad Masnach y byd.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle i adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn ein bod yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, ac i ganolbwyntio pob ymdrech, bellach, ar baratoi at y canlyniad hwn.

Diogelu Dyfodol Cymru

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso dirprwyaeth seneddol i gael ei hanfon ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr seneddol a chynrychiolwyr y llywodraeth yn San Steffan i gyflwyno'r achos dros Gymru fel y nodir yn y cynnig hwn.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/01/2019

Angen Penderfyniad: 30 Ion 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd