Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach
Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach
Inquiry5
Ar 17 Ionawr 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei
strategaeth ddrafft Pwysau
Iach: Cymru Iach ar gyfer ymgynghori arni.
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi penderfynu ystyried
y strategaeth ddrafft o safbwynt plant a phobl ifanc. Nid yw'r Pwyllgor yn
bwriadu dyblygu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru; ei nod, yn hytrach, yw sicrhau
y bydd anghenion penodol plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu, yn ystod y cam
cynnar hwn yn natblygiad polisi pob oed.
Casglu tystiolaeth
Ar 6 Mawrth 2019, fe
wnaeth y Pwyllgor drafod yn uniongyrchol â grŵp bach o randdeiliaid
perthnasol. Soniwyd wrth y Prif Swyddog Meddygol yn y sesiwn gyhoeddus ar 14 Mawrth am y materion a nodwyd gan y
rhanddeiliaid a’r Aelodau.
Pwyllgorau eraill
O gofio perthnasedd y gwaith hwn i gylch gorchwyl y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, mae gwahoddiad
(PDF 73.5KB) agored wedi'i estyn i'w aelodau i gymryd rhan yn y gwaith hwn.
Cyflwynodd y Pwyllgor ei ymateb
ffurfiol (PDF 263KB) i
ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar 11 Ebrill 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/01/2019
Dogfennau
- Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Strategaeth Pwysau Iach: Cymru iach - 16 Hydref 2019 PDF 214 KB
- Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Ymgynghoriad Pwysau Iach: Cymru Iach - 3 Mai 2019 PDF 261 KB
- Ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: 11 Ebrill 2019 PDF 263 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Pwysau Iach: Cymru Iach - 5 Chwefror 2019 PDF 81 KB