Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach

Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach

Inquiry5

Ar 17 Ionawr 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ddrafft Pwysau Iach: Cymru Iach ar gyfer ymgynghori arni.

 

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi penderfynu ystyried y strategaeth ddrafft o safbwynt plant a phobl ifanc. Nid yw'r Pwyllgor yn bwriadu dyblygu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru; ei nod, yn hytrach, yw sicrhau y bydd anghenion penodol plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu, yn ystod y cam cynnar hwn yn natblygiad polisi pob oed.

Casglu tystiolaeth

Ar 6 Mawrth 2019, fe wnaeth y Pwyllgor drafod yn uniongyrchol â grŵp bach o randdeiliaid perthnasol. Soniwyd wrth y Prif Swyddog Meddygol yn y sesiwn gyhoeddus ar 14 Mawrth am y materion a nodwyd gan y rhanddeiliaid a’r Aelodau.

 

Pwyllgorau eraill

O gofio perthnasedd y gwaith hwn i gylch gorchwyl y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, mae gwahoddiad (PDF 73.5KB) agored wedi'i estyn i'w aelodau i gymryd rhan yn y gwaith hwn.

 

Cyflwynodd y Pwyllgor ei ymateb ffurfiol (PDF 263KB) i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar 11 Ebrill 2019.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/01/2019

Dogfennau