NDM6949 Dadl Plaid Cymru - Carchardai a Chyfiawnder Troseddol
NDM6949 Dadl Plaid Cymru - Carchardai a Chyfiawnder Troseddol
NDM6949 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant
Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai yng
Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau
llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a
lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan
Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a
lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio
sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn
treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar yn cael
effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol.
5. Yn galw am:
a) datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru;
b) diystyru adeiladu rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar unrhyw
safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn
i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
c) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd
ar breifateiddio rhannol;
d) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad
ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
e) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a
menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol;
f) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau
Cymru.
Canolfan
Llywodraethiant Cymru - Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau (Saesneg
yn unig)
Canolfan
Llywodraethiant Cymru - Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau (Saesneg
yn unig)
Pwyllgor
Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin: Tystiolaeth Atodol - Dr Robert Jones,
Canolfan Llywodraethiant Cymru, Medi 2018 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru,
Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor
Dethol Materion Cymreig.
2. Yn nodi ymhellach bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth
carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018,
yn wladolion tramor, a'r mwyaf cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon
a Rwmania.
3. Yn credu:
a) y dylid ariannu gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a
rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai;
b) y dylai pob carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan
swyddogion y Goron fod yn atebol i Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau
preifat;
c) y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y
DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai;
d) y dylai troseddwyr o dramor gael eu halltudio i fwrw
eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y dylai troseddwyr o'r fath gael eu
gwahardd rhag dychwelyd i'r DU;
e) y dylai carchardai newydd gael eu hadeiladu fel y bo
angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a gaiff eu dyfarnu'n euog o
droseddau sy'n dwyn cosb o garchar.
Bwletin
Ystadegau Rheoli Troseddwyr, Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar
wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am blismona
a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw
safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn
i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd
ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad
ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a
menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac
e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau
Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 30 Ion 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS