P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant
P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant
P-05-857
Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan The National
Organisation for Children's Mental Health, ar ôl casglu 91 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Tasglu Cenedlaethol
i ymchwilio i ba ffactorau diwylliannol, ffactorau cymdeithasol a ffactorau
gwleidyddol a allai fod yn cyfrannu at nifer y plant yng Nghymru sy’n dioddef
iechyd meddwl gwael; a bod y Tasglu Cenedlaethol hwn:
1) Yn cynnwys yn ei aelodaeth: plant; cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gweithio
gyda phlant; cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yng
Nghynulliad Cenedlaethol Cymru; academyddion sy’n ymwneud ag ymchwilio i bolisi
cymdeithasol, gwyddoniaeth wleidyddol, diwylliant, cymdeithas ac economeg;
2) Yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Plant Cymru sydd yn y swydd pan grëir y
Tasglu hwn, ac y dylai aros yn Gadeirydd y Tasglu am ei hyd, pe bai’n cytuno i
wneud hynny (waeth a yw’n parhau’n Gomisiynydd Plant Cymru am oes y Tasglu ai
peidio - ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol);
3)Â chyfrifoldeb am lunio adroddiad yn seiliedig ar ei ymchwiliadau sy’n
cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ei
ganfyddiadau; ac y
4) Dylai Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â’r Tasglu Cenedlaethol
hwn, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a phreswylwyr Cymru (gan gynnwys plant),
edrych yn fanwl ar argymhellion yr adroddiad.
Gwybodaeth ychwanegol
Menter gymdeithasol sydd
newydd ei sefydlu yw’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Cyf.
Ein hamcan yw cefnogi datblygiad diwylliant cenedlaethol sy’n galluogi plant i
gynnal iechyd meddwl ardderchog, drwy helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda a /
neu ar gyfer plant, i greu’r amgylchedd gorau lle gall iechyd meddwl pob
plentyn ffynnu.
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
·
Bro Morgannwg
·
Canol De Cymru
Statws
Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod
gan y Pwyllgor
Deisebau ar hyn o bryd.
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2019