NDM6919 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6919 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6919 Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw cyn-weithwyr Allied Steel and Wire wedi
cael gwerth llawn eu pensiynau o hyd, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd
yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng
nghyfraith y DU.
2. Yn nodi bod gweithwyr, o dan gytundeb iawndal a
gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, wedi cael addewid o union yr
un driniaeth â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu
pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.
3. Yn nodi bod gan weithwyr, yn sgil newidiadau
yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth
ariannol, yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn.
Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag
chwyddiant.
4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i
achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr
ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.
Cefnogwyd gan:
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Leanne
Wood (Rhondda)
David
Rees (Aberavan)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 23 Ion 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd