P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl
P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl
P-05-853
Na i gau Cyffordd 41 o gwbl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carol Clement -
Williams, ar ôl casglu 473 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod unrhyw
gynnig i cau cyffordd 41 yr M4.
Mae adroddiad gan WSP i Lywodraeth Cymru a
gyhoeddwyd ym mis Medi 2018, sy'n ystyried mesurau ar gyfer lleihau nitrogen
deuocsid ar rwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Llywodraeth Cymru, yn cynnwys
cynnig i gau ffordd ymuno orllewinol cyffordd 41 fel modd o leihau allyriadau
ochr y ffordd ar yr M4 rhwng cyffordd 41 a chyffordd 42. Yr unig effaith a
gaiff hyn fydd cynyddu allyriadau nitrogen deuocsid ar ffyrdd lleol a chael mwy
o effaith ar bobl leol, yn enwedig plant.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Aberafan
·
Gorllewin De Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd
y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o
adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng
nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad
sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan
y Pwyllgor Deisebau ar 15/01/2019.
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2019