Cod anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Cod anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Inquiry5

 

Ar 11 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft sy’n ofynnol o dan Adran 4 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY).

 

Yn ystod ei waith craffu ar y Bil ADY, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) yn pryderu y dylai’r Cod fod yn ddarostyngedig i waith craffu gan y Cynulliad cyn iddo gael ei gyhoeddi. Diwygiwyd y Bil yng Nghyfnod 2 i gynnwys y weithdrefn y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei dilyn cyn y caiff gyhoeddi’r Cod (Adran 5 o’r Ddeddf). Fel rhan o’r weithdrefn honno, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar fanylion y Cod drafft. Wedi’i gynnwys ar restr o ymgyngoreion statudol ar gyfer y broses ymgynghori honno yw “Pwyllgor perthnasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru”, sef y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) yn yr achos hwn.

 

Fel un o’r ymgyngoreion statudol, trafodwyd y Pwyllgor PPIA y ffordd orau o fynd ati i graffu ar y Cod drafft er mwyn cyfrannu at ymgynghoriad y Llywodraeth yn effeithiol, gan osgoi dyblygu gwaith yn ddiangen. Cytunwyd y Pwyllgor i alw gweithgor ynghyd i alluogi gwaith ymgysylltu uniongyrchol â rhanddeiliaid arbenigol i drafod manylion y Cod drafft.

 

Trafododd y Pwyllgor y Cod drafft â rhanddeiliaid yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror 2019.

 

Cyflwynodd y Pwyllgor ei ymateb ffurfiol (PDF 766KB)  i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar 22 Mawrth 2019.

Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil flog yn darparu’r cefndir i ddiben y Cod ADY, a'r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor i graffu arno.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2018

Dogfennau