NDM6898 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Rhwyster Carthffosydd
NDM6898 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch
hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.
2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau
mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn
fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith ar
gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y tu hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau
traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi
cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd
cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir
eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir,
trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.
Water
UK - Wipes in Sewer Blockage Study (Saesneg
yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr
er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae
defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr
Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau
traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.
Gwelliant 3 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o
ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o ddefnyddiau traul.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021
Angen Penderfyniad: 12 Rhag 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Neil Hamilton AS