NDM6896 Dadl: Diwrnod Rhyngwladol ar Hawliau Dynol
NDM6896 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd
Llun 10 Rhagfyr 2018.
2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r
Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
Datganiad
Cyffredinol o Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y twf mewn mudiadau gwleidyddol sy'n
gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r afael ag eithafiaeth yn
cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell dde.
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod yr holl
hawliau a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yn un mor
bwysig â'i gilydd.
Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd
o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn
rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a
hyrwyddo democratiaeth.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021
Angen Penderfyniad: 12 Rhag 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Julie James AS