Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
Ar 6 Mai, daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn
Senedd Cymru, a chyfeirir at y sefydliad yn gyffredin fel y Senedd. O
ganlyniad, mae cyfeiriadau yn y ddogfen hon yn adlewyrchu’r newid enw, ac yn
cyfeirio at y sefydliad fel y ‘Cynulliad’ mewn cyd-destun hanesyddol (cyn 6 Mai
2020) ac fel y ‘Senedd’ ar ôl hynny.
Yn ei adroddiad
strategaeth ar gyfer 2016-21, mae'r Bwrdd Taliadau yn amlinellu ei
ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn
etholiad cyffredinol Cymru yn 2021.
Fel y gwyddoch, ategir gwaith y Bwrdd gan egwyddorion
sy'n cynnwys y dylai'r cymorth ariannol a'r taliadau i Aelodau gefnogi diben
strategol y Cynulliad; a bod yn rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng
nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.
Mae'r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod ei Benderfyniad yn adlewyrchu
cymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y mae Aelodau'n ymgymryd â hwy, ac
nad yw'n rhwystro unigolion, am resymau ariannol, rhag ceisio cael eu hethol
i'r Cynulliad. Gan hynny, mae'r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn
ar gyfer yr adolygiad:
- addasrwydd lefel y gefnogaeth a ddarperir yn y Penderfyniad;
- hyblygrwydd, rhagnodoldeb a hygyrchedd y darpariaethau;
- gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar
gael.
Cytunodd y Bwrdd ar sut y bydd yn adolygu'r Penderfyniad
yn ei gyfarfod ar
11 Hydref 2018. Caiff yr adolygiad ei rannu'n dair. Ar ôl ystyried pob rhan
o'r gwaith, bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ymgynghoriad i geisio barn am ei gynigion
i ddiwygio unrhyw ddarpariaethau yn y rhan honno. Wedi i'r Bwrdd gwblhau ei
adolygiad o'r tair rhan o'r adolygiad, caiff ymgynghoriad terfynol ei gyhoeddi
i geisio barn am y Penderfyniad yn ei gyfanrwydd, a hynny i sicrhau bod y pecyn
cymorth ariannol i'r Aelodau yn parhau i fod yn addas at y diben. Mae manylion
y materion sydd ym mhob rhan o'r adolygiad a'r dyddiadau ymgynghori posibl
wedi'u nodi isod:
|
Materion i'w hystyried |
Y dyddiadau ymgynghori posibl |
Rhan un |
- Gwariant ar lety preswyl (pennod 4) - Siwrneiau'r Aelodau (pennod 5) - Lwfans costau swyddfa (pennod 6) |
Gwanwyn 2019 |
Rhan dau |
- Cymorth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad
(pennod 7) - Cymorth ar gyfer y pleidiau gwleidyddol
(pennod 8) |
Haf 2019 |
Rhan tri |
- Taliadau Aelodau (pennod 3) - Aelodau sy'n gadael y swydd (pennod 9) |
Dechrau'r hydref 2019 |
Ymgynghoriad llawn: |
Holl ddarpariaethau'r Penderfyniad |
Diwedd yr hydref 2019 |
Er gwybodaeth yn unig y mae'r dyddiadau ymgynghori a
gallent newid. Caiff manylion llawn pob ymgynghoriad eu cyhoeddi ar wefan y
Bwrdd.
Pe bai'r Comisiwn yn
penderfynu cyflwyno deddfwriaeth fel rhan o'i Raglen Diwygio'r Cynulliad, mae'r Bwrdd yn ymwybodol y byddai gofyn
iddo ystyried yr angen i gynnig unrhyw newidiadau pellach i'r Penderfyniad i
adlewyrchu'r cynigion deddfwriaethol. Bydd y Bwrdd yn monitro'r rhaglen
Diwygio'r Cynulliad wrth iddi ddatblygu, i sicrhau bod ei Benderfyniad yn
ystyried newidiadau cyfansoddiadol a'i fod yn rhoi cyfle i'r Aelodau ymgymryd
â'u rôl yn effeithiol ar ran pobl Cymru.
Ar 1 Ebrill lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad
cyhoeddus ar ei gynigion sy’n deillio o ran gyntaf ei Adolygiad o’r
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â
phenodau y Penderfyniad ar Wariant ar Lety Preswyl, ar Gostau Swyddfa ac ar
Siwrneiau Aelodau.
Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 7 Mehefin 2019.
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’w ymgynghoriad yn ei
gyfarfod ar 4 Gorffennaf 2019. Ceir manylion llawn ynghylch penderfyniad y
Bwrdd yma.
Ymgynghoriad
ar rhan dau
Ar 11 Gorffennaf, lansiodd y
Bwrdd ymgynghoriad
cyhoeddus ar ei gynigion yn deillio o ran 2 o’i Adolygiad o’r Penderfyniad ar
gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â’r penodau yn y Penderfyniad
ar y cymorth i Aelodau’r Cynulliad a Grwpiau Gwleidyddol.
Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd
Gwener 11 Hydref 2019. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’w ymgynghoriad yn ei
gyfarfod ar 4 Gorffennaf 2019. Ceir manylion llawn ynghylch penderfyniad y Bwrdd
yma.
Ymgynghoriad ar ran tri
Ar 30 Medi, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad
cyhoeddus ar ei gynigion, sy’n deillio o ran tri o’i Adolygiad o’r Penderfyniad
ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn gysylltiedig â’r penodau
yn y Penderfyniad sy’n ymwneud â thaliadau Aelodau, darpariaeth dirwyn i ben, a
chymorth ychwanegol i Aelodau.
Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd
Llun 11 Tachwedd 2019.
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’w ymgynghoriad yn ei gyfarfod ar 4 Gorffennaf
2019. Ceir manylion llawn ynghylch penderfyniad y Bwrdd yma.
Cyhoeddi Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar
gyfer y Chweched Senedd
Ar dydd Iau 4 Mehefin 2020 mae'r Bwrdd Taliadau
Annibynnol wedi cyhoeddi ei Benderfyniad
sy'n nodi'r tâl a'r lwfansau sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd yn dilyn
etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021.
Mae’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd wedi’i
gyhoeddi ym mis Mehefin 2020 er mwyn sicrhau bod y rheini sy'n ystyried sefyll
etholiad ym mis Mai 2021 yn glir ynghylch y tâl a'r cymorth a fydd ar gael
iddynt os cânt eu hethol. Ni ddaw'r Penderfyniad hwn i rym tan ar ôl etholiad
nesaf y Senedd ym mis Mai 2021.
Math o fusnes: Arall
Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2018
Dogfennau
- Penderfyniadau ymgynghori - rhan un PDF 219 KB
- Penderfyniadau ymgynghori - rhannau dau a tri PDF 150 KB
- Adroddiad a'r Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd PDF 778 KB
Ymgynghoriadau
- Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymgynghoriad ar rhan un o’r adolygiad (Wedi ei gyflawni)
- Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: ymgynghoriad ar ran 2 o’r adolygiad a’r newidiadau i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau (Wedi ei gyflawni)
- Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: ymgynghoriad ar ran 3 o’r adolygiad (Wedi ei gyflawni)
- Ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad (Wedi ei gyflawni)