NDM6854 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Lluoedd Arfog
NDM6854 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Lluoedd Arfog
NDM6854 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant
Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf.
2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig
Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng
1914 a 1918.
3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu
ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi comisiynydd y
lluoedd arfog i Gymru er mwyn sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei
gynnal.
Cyfamod
y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy
Gymru a dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i
sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau Deddf peidio â
gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu ansawdd tai a gofal iechyd i
gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021
Angen Penderfyniad: 7 Tach 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS