Cyllid Ysgolion

Cyllid Ysgolion

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i ddigonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru a'r ffordd y mae cyllidebau ysgolion yn cael eu pennu a'u dyrannu. 

Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar:

·         digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yng nghyd-destun cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus eraill a'r adnoddau sydd ar gael;

·         i ba raddau y mae lefel y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yn ategu neu’n rhwystro’r gwaith o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru;

·         y berthynas, cydbwysedd a thryloywder rhwng ffynonellau cyllid amrywiol ysgolion, gan gynnwys cyllidebau craidd a chyllid neilltuedig;

·         y fformiwla ariannu llywodraeth leol a’r pwysoliad a roddir i gyllidebau addysg a chyllidebau ysgolion yn benodol yn y Setliad Llywodraeth Leol;

·         Goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn pennu cyllidebau ysgolion unigol, gan gynnwys, er enghraifft, y pwysoliad a roddir i ffactorau megis proffil oedran y disgyblion, amddifadedd, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a darpariaeth cyn oedran gorfodol;

·         y cynnydd a'r datblygiadau ers adolygiadau blaenorol pwyllgorau'r Cynulliad (er enghraifft, rhai'r Pwyllgor Menter a Dysgu yn y Trydydd Cynulliad); ac

·         argaeledd cymariaethau rhwng cyllid addysg a chyllidebau ysgolion yng Nghymru a gwledydd eraill y DU a'r defnydd ohonynt.

Roedd Blog Ymchwil yn rhoi rhagor o fanylion am Gyllido Ysgolion yng Nghymru.

Casglu tystiolaeth

Ar 16 Ionawr 2019, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad bord gron i lywio ei ymchwiliad i gyllido ysgolion. Diben y drafodaeth ford gron oedd galluogi’r Aelodau i gasglu barn a phrofiadau ynghylch digonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru a’r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion eu pennu a’u dyrannu. Mae nodyn cryno o'r digwyddiad bord gron wedi’i lywio.

Adroddiad

Adroddiad ar Gyllido Ysgolion yng Nghymru (PDF 2.16MB) – 10 Gorffennaf 2019

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 415KB) - 9 Medi 2019

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 23 Hydref 2019.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/10/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau