NDM6829 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Capasiti'r GIG

NDM6829 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Capasiti'r GIG

NDM6829 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder am gapasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.

2. Yn nodi bod pwysau drwy gydol y flwyddyn yn llesteirio gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.

2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

Cymru Iachach

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo:

Yn nodi bod pwysau ariannol sy’n arwain at wasanaethau gofal cymdeithasol gwaeth yn cyfrannu at bwysau cynyddol ar y GIG.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ym mhwynt 3, ychwanegu ‘gofal cymdeithasol,’ ar ôl ‘phwysau ar wasanaethau’.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021

Angen Penderfyniad: 17 Hyd 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Darren Millar AS