NDM6782 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Yr Economi Sylfaenol
NDM6782 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Yr Economi Sylfaenol
NDM6782
Lee
Waters (Llanelli)
David
Melding Canol De Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Hefin
David (Caerffili)
Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi
sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu economaidd ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran croesawu egwyddorion yr economi
sylfaenol.
2. Yn credu bod dull Cyngor Dinas Preston o adeiladu
cyfoeth cymunedol yn amlwg wedi llwyddo i fynd i'r afael ag amddifadedd ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Preston i
drafod y gwersi y gellir eu dysgu.
3. Yn credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015 yn cynnig cyfle sylweddol i ail-fframio gwerth gorau yng
nghyd-destun caffael yng Nghymru, i gefnogi dull yr economi
sylfaenol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu modelau
uchelgeisiol o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull
lleol ac yn treialu modelau amgen lluosog o ddarparu gofal, fel rhan
o ddull gweithredu yr economi sylfaenol yng Nghymru.
Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021
Angen Penderfyniad: 17 Hyd 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Lee Waters AS