Gwasanaethau endosgopi

Gwasanaethau endosgopi

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Pumed Senedd ymchwiliad i wasanaethau endosgopi yng Nghymru mewn ymateb i bryderon ynghylch cyfyngiadau o ran capasiti, a newidiadau i’r rhaglen sgrinio’r coluddyn, y rhagwelir y bydd yn cynyddu’r galw am wasanaethau yn y dyfodol.

Cyhoeddodd Pwyllgor y Pumed Senedd ei adroddiad ym mis Ebrill 2019. Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn 2019.

Ysgrifennodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Pumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidog ar 24 Awst 2022.

Cefndir

Cyhoeddodd Bowel Cancer UK ei adroddiad 'A Spotlight on Bowel Cancer in Wales: Early Diagnosis Saves Lives' ym mis Chwefror 2018, sy'n tynnu sylw at oedi difrifol mewn diagnosis canser y coluddyn yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn nodi bod canlyniadau canser y coluddyn yng Nghymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop - mae Cymru yn 25 ar restr o 29 yn Ewrop o ran cyfraddau goroesi pum mlynedd.

Mae'r adroddiad yn amlygu bod gwahaniaethau yn bodoli yng Nghymru o ran sgrinio, capasiti ac ansawdd endosgopi, atgyfeiriadau meddygon teulu, gweithredu canllawiau NICE, ac ymwybyddiaeth o symptomau. 

Mae adroddiad Bowel Cancer UK yn nodi nad yw'r rhan fwyaf o Fyrddau Iechyd yng Nghymru yn gweithredu o fewn amseroedd aros ar gyfer profion a all roi diagnosis o ganser y coluddyn, a bod y nifer o bobl gymwys sy'n cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio coluddyn yn frawychus o isel. Sgrinio yw'r ffordd orau o roi diagnosis ar gyfer canser y coluddyn yn gynnar ond, yn 2016, dim ond 53.4% o bobl oedd yn gymwys i gael prawf sgrinio'r coluddyn yng Nghymru a gafodd y prawf mewn gwirionedd. I'r rhai sydd angen profion ysbyty pellach drwy endosgopi, bydd angen i nifer o bobl aros yn llawer hirach na'r targed aros o wyth wythnos. 

Prawf Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT)

O 2019, bydd Cymru yn cyflwyno prawf mwy syml a chywir o'r enw'r Prawf Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT) yn lle'r prawf sgrinio presennol, a disgwylir i hynny gynyddu faint o bobl fydd yn cael sgrinio, ond mae pryderon bod unedau endosgopi mewn ysbytai Cymru eisoes yn cael trafferth ymdopi â'r galw, ac er bod y prawf sgrinio newydd yn welliant cadarnhaol, gallai roi mwy o straen ar wasanaethau sydd eisoes o dan ormod o bwysau. 

Yn yr Alban, gwnaeth FIT ddisodli FOBt guaiac (gFOBt) fel y prawf ar gyfer sgrinio'r coluddyn ym mis Tachwedd 2017. Mewn astudiaeth yn edrych ar ddefnydd FIT yn yr Alban, canfu mai'r nifer a gymerodd y prawf oedd 58.7% ar gyfer FIT, a oedd dipyn yn uwch na 53.9% ar gyfer gFOBt.

Mae FIT yn mesur microgramau o haemoglobin dynol fesul gram o ysgarthion. Gallai'r hyn a ystyrir yn brawf normal neu annormal newid drwy addasu'r trothwy FIT rhifol. Yn gyffredinol, po isaf yw'r trothwy, y mwyaf sensitif fydd y prawf a'r mwyaf o achosion o ganser ac adenoma a gaiff eu canfod, ac yn y pen draw, atal marwolaethau o ganser y coluddyn. Byddai FIT hynod sensitif yn golygu bod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer colonosgopi.

Y trothwy sensitifrwydd FIT a gynlluniwyd yn Rhaglen Sgrinio Canser y Coluddyn yng Nghymru yw 150ug/g, a'r trothwy yn yr Alban yw 80ug/g. Y trothwy sensitifrwydd cychwynnol arfaethedig yw 120ug/g yn Lloegr.

Roedd y prawf i fod i gael ei weithredu o 60 oed, ond mae pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU wedi argymell yn ddiweddar y dylai'r prawf fod ar gael i bobl 50-74 oed, ar ôl iddo adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael. Mae'r prawf eisoes yn cael ei ddefnyddio yn yr Alban o 50 oed.

 

Sesiynau tystiolaeth

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Bowel Cancer UK a Cancer Research UK

Lowri Griffiths, Pennaeth Cymru, Bowel Cancer UK

Asha Kaur, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd, Bowel Cancer UK

Andy Glyde, Rheolwr Materion Cyhoeddus (Cymru), Cancer Research UK

29 Tachwedd 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2. Iechyd Cyhoeddus Cymru

Hayley Heard, Pennaeth Sgrinio Coluddion Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd / Cyfarwyddwr MeddygolIechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Adran Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

29 Tachwedd 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3. Rhwydwaith Canser Cymru

Dr Tom Crosby, Cyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser Cymru ac Oncolegydd Ymgynghorol, Canolfan Ganser Felindre

 

29 Tachwedd 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Jared Torkington, Cadeirydd sy’n Ymadael, Cymdeithas Cymru ar gyfer Gastroenteroleg ac Endosgopi (WAGE) a Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dr Sunil Dolwani, Cadeirydd newydd Cymdeithas Cymru ar gyfer Gastroenteroleg ac Endosgopi (WAGE) a Gastroenterolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Sgrinio Canser y Coluddyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dr John Green, Cadeirydd y Grŵp Sicrwydd Ansawdd Gwasanaethau Endosgopi yn y Cyd-grŵp Cynghori ar Endosgopi Gastroberfeddol a Gastroenterolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Phedra Dodds, Nyrs Ymgynghorol Endoscopi, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

29 Tachwedd 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

5. Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Dr Neil Hawkes, Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

 

29 Tachwedd 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

6. Welsh Government Officials

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llwyodraeth Cymru

Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr y GIG, Llwyodraeth Cymru

Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol y GIG, Llwyodraeth Cymru

29 Tachwedd 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/10/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau