Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Cyflwynwyd y Bil Amaethyddiaeth (y Bil) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 12 Medi 2018.

 

Mae’r Bil Amaethyddiaeth yn ceisio darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a gosod system newydd yn ei lle.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 4 Hydref 2018.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad (PDF, 851KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 4 Ionawr 2019.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 1303KB)MB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 4 Ionawr 2019.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Ar 16 Mawrth 2019, gosododd Llywodraeth Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad (PDF, 709KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol 7 Mehefin 2019.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 2104KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 11 Mehefin 2019.

 

Methodd y Bil â chwblhau ei daith drwy Senedd y DU cyn y diddymiad. Mae hyn yn golygu na fydd y Bil yn symud ymlaen ymhellach.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2018

Dogfennau