Offerynnau Statudol sydd angen Cydsyniad: Ymadael â'r UE
Offerynnau Statudol sydd angen Cydsyniad: Ymadael â'r UE
O dan rai
amgylchiadau, bydd angen cydsyniad y Senedd ar rai offerynnau statudol a wneir
gan Weinidogion y DU. Er enghraifft, rhai offerynnau statudol a wnaed o dan
Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
O dan Reol
Sefydlog 30A, mae’n rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (Memorandwm
Cydsyniad Offeryn Statudol) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol o’r fath
y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU, a hynny dim mwy na
thri diwrnod fel rheol ar ôl iddo gael ei osod gerbron Senedd y DU. Ar ôl i
femorandwm cydsyniad offeryn statudol gael ei osod, caiff unrhyw aelod gyflwyno
cynnig sy’n gofyn i’r Senedd gytuno i’r darpariaethau a amlygir ganddo.
Lle mae
memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn ymwneud â chynigion i newid y gyfraith
yn sgil ymadawiad y DU â’r UE, bydd yr offeryn statudol sy’n destun memorandwm
cydsyniad offeryn statudol gynnwys y term “(Ymadael â’r UE)” yn y teitl.
Rhaid i aelod o
Lywodraeth Cymru osod datganiad ysgrifenedig i roi hysbysiad o offeryn statudol
perthnasol a wnaed, neu sydd i’w wneud, gan Weinidog y DU sy’n gweithredu ar ei
ben ei hun o dan adrannau 8, 9 neu 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
2018, neu Atodlen 4 i’r Ddeddf honno, sy’n cynnwys darpariaeth o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion
Cymru.
Math o fusnes:
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/07/2022